Uchafbwyntiau mis Awst Chapter
- Published:
Ymunwch â ni ar gyfer #HotSlugSummer a dod i nabod y creaduriaid gludiog yn Slime Mother, sef ein harddangosfa bresennol gan Abi Palmer. Mae mynediad i’r oriel am ddim ac mae hi ar agor o ddydd Mawrth tan ddydd Sul rhwng 11am a 5pm.
Mae ganddon ni ffilmiau saethiadau hir yn y sinema i gyd-fynd â diwrnodau hir yr haf, wrth i ni gysgodi rhag y glaw mân a’r haul mwll gyda chlasuron myfyriol a ffilmiau newydd o’r mudiad Sinema Araf. Mae rhaglen ‘Will Heaven Fall Upon Us? Haf o Sinema Araf’ yn rhedeg drwy fis Awst.
Mae ein gweithgareddau haf i’r teulu yn parhau, ac rydyn ni’n cynnig tocynnau am £3 yn unig i’n ffilmiau teuluol, gan gynnwys Kensuke's Kingodom, Kung Fu Panda 4 a mwy! Cofiwch gasglu pecyn cinio am ddim i unrhyw un o dan 18 oed, ar gael o ddydd Llun tan ddydd Gwener, 11.30am-2pm yn ein caffi bar.
Mae House of Milan yn cyflwyno Teyrnged i’r Eiconau a’r Arwyr ac yn creu hanes wrth gynnal y Mini Ball Deluxe cyntaf yng Nghymru a nes ymlaen y mis yma bydd y delynores a’r gyfansoddwraig Mary Lattimore yn ymuno â ni mewn noson o gerddoriaeth arbrofol.
Credyd llun: Dan Weill Photography
Digwyddiadur - cipolwg
Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.
Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!