Uchafbwyntiau Chapter Mis Gorffennaf
- Published:
Mae’r mis yma’n llawn dop o ffilmiau, cerddoriaeth, perfformiadau byw, arddangosfeydd newydd a mwy...
Mewn cydweithrediad â Theatr Hijinx a Chapter, mae Karol Cysewski yn cyflwyno Requiem, perfformiad byw hanfodol newydd sy’n archwilio profiadau pobl niwroamrywiol ac sydd ag anableddau dysgu yn ystod pandemig Covid.
Bydd Taking Flight yn camu i’r llwyfan gyda’r sioe deuluol You’ve Got Dragons, sy’n adrodd stori ddoniol a sensitif am daith plentyn yn delio â’u dreigiau.
Bydd The Bench gan Krystal Lowe yn swyno cynulleidfaoedd wrth i’r dawnswyr gysylltu a chyfuno mewn symudiadau byrfyfyr a chain, i ganfod hud y pethau syml beunyddiol. Fis yma hefyd bydd Krystal Lowe yn cyflwyno Remarkable Rhythm, perfformiad dawnsio a theatr i bobl ifanc 7+ a'i teuluoedd ac archebwch tocyn am y gweithdy rhythm a ysgrifennu am ddim!
Ymunwch â ni ar 19 a 20 Gorffennaf i ddathlu agoriad arddangosfa amlsynhwyraidd Abi Palmer, Slime Mother – lle bydd gastropodau sanctaidd, maniffesto llysnafeddog, a disgo gwlithod enfawr.
Mae ein rhaglen ffilm yn cynnwys Bye Bye Tiberius, sef ffilm ddogfen deimladwy am yr actor Hiam Abbass yn ailgysylltu â’i chartref ym Mhalesteina, a’r ffilm hir-ddisgwyliedig Kinds of Kindness, sy’n driawd o straeon doniol a thywyll gan y tîm tu ôl i Poor Things.
Mae ein rhaglen gerddoriaeth ddeinamig yn parhau, a byddwn ni’n croesawu Papa Jupe’s TC gyda’u dylanwadau ôl-pync, syrff, disgo a gospel, gyda chefnogaeth gan Small Miracles. Mae ein digwyddiad am ddim poblogaidd, Jazz yn y Bar, yn parhau gyda Phedwarawd Chapter. Ymunwch â ni i glywed alawon llawn swing a byrfyfyr bachog yn gefndir wrth fwynhau ein dewis newydd o goctels hafaidd!