i

Uchafbwyntiau Chapter mis Mawrth

  • Published:

Dewch draw i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda ni ddydd Sadwrn yma, 1 Mawrth! Galwch heibio ar gyfer gweithgareddau dan arweiniad Cŵm Rag, cyn ein Twmpath bywiog gyda cherddoriaeth fyw gan AVANC, bwyd traddodiadol blasus a galwr i dywys y dawnsio.

Dathlwch yn ein sinema gyda Gŵyl Animeiddio Caerdydd, sy’n dod i’n sinemâu gyda 9 ffilm fer animeiddiedig wedi’u creu yng Nghymru!

Dewch i’r oriel i weld ein harddangosfa ddiweddaraf MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC gan Eimear Walshe. Ar agor 11am-5pm, Mawrth-Sul.

Profwch noson o sain arbrofol a byrfyfyr rhydd gan David Grubbs a Secluded Bronte, gyda chefnogaeth gan Jo Kelly.

Ymunwch â Wet Mess, sy’n cymylu’r llinell rhwng perfformiad a realiti, cymeriad a’r hunan, a’r hudol yn y beunyddiol yn TESTO.

Rydyn ni’n cymryd rhan yn ymgyrch Arts for Impact gan Big Give i godi arian i Deaf Gathering 2025, gŵyl dan arweiniad pobl Fyddar i bawb! Bydd pob rhodd rydych chi’n ei gwneud yn cael ei chyfateb gan Big Give ac yn cael dwywaith yr effaith.