Chapter X Art Fund
- Published:
Am y tro cyntaf erioed, bydd gan gynulleidfaoedd ledled gwledydd Prydain gyfle i weld effaith celf ar donnau’r ymennydd, gan y byddwn ni’n mynd ar daith gyda thechnoleg sy’n delweddu hyn mewn amser go iawn ac mewn 3D i nifer o amgueddfeydd yn ystod y gwanwyn a’r haf.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn treialu’r profiad tonnau ymennydd ym mis Tachwedd y llynedd, mae Chapter yn ymuno ag Art Fund i ddod â’r dechnoleg i Gaerdydd fis Mehefin.
Mae’r prosiect yn dangos sut mae’r ymennydd yn cael ei ysgogi pan fydd pobl yn profi celf mewn amgueddfa neu oriel, a’i nod yw helpu i ateb y cwestiwn ynghylch gwerth hanfodol celf a’r effaith mae’n ei chael arnon ni. Mae gwahoddiad i ymwelwyr o bob oed gymryd rhan drwy edrych ar gelf neu arteffactau wrth wisgo penwisg sydd wedi’i chysylltu â monitor electroenseffalogram (EEG). Yna bydd allbwn eu tonnau ymennydd yn cael ei ddelweddu ar sgrin mewn 3D ac mewn amser go iawn wrth iddyn nhw ymateb.
Awyddus i drio’r benwisg eich hunan? Bydd y profiad tonnau ymennydd yn teithio i:
- Amgueddfa Holburne, Caerfaddon 4-5 Ebrill
- Oriel Watts – Artists' Village, Guildford 14 Ebrill
- The Hepworth Wakefield 31 Mai -1 Mehefin
- Chapter, Caerdydd 21-22 Mehefin
- Orielau Cenedlaethol yr Alban: Oriel National, Caeredin 6-7 Gorffennaf
- Compton Verney, Swydd Warwick 19-20 Gorffennaf
Datgelodd ymchwil a gomisiynwyd i gyd-fynd â’r prosiect fod 95% o bobl ym Mhrydain yn cytuno bod ymweld ag amgueddfeydd ac orielau’n fuddiol, ond serch hynny bod 4 ymhob 10 (40%) o bobl yn mynd llai nag unwaith y flwyddyn, ac mae 1 ymhob 6 o bobl Prydain (16%) yn credu nad yw celf yn cael dim effaith arnyn nhw. Fodd bynnag, mae’r dechnoleg yn galluogi defnyddwyr i weld yr effaith glir ac uniongyrchol gall celf ei chael ar yr ymennydd dynol.
Drwy gyfleu effaith celf ar ein hymennydd a’n hemosiynau, mae Art Fund yn gobeithio annog pobl i ymweld ag amgueddfeydd ac orielau gyda Thocyn Celf Cenedlaethol, sy’n caniatáu i aelodau’r cyhoedd gael mynediad am ddim i gannoedd o amgueddfeydd, orielau a thai hanesyddol ledled gwledydd Prydain, yn ogystal â chael 50% oddi ar arddangosfeydd mawr a gostyngiadau mewn siopau a chaffis amgueddfeydd. Mae deiliad y Tocyn Celf Cenedlaethol yn cael 10% i ffwrdd yng Nghaffi Bar Chapter, yn ogystal â buddion yn Amgueddfa Cymru, Ffotogallery, Castell Caerdydd a mwy.