‘See More, Live More’: manteision celf a diwylliant
- Published:
Mae ymgysylltu â chelf a diwylliant yn arwain at fanteision i iechyd, sy’n newyddion grêt!
Lansiodd Art Fund ymgyrch Tocyn Celf Cenedlaethol newydd yn ddiweddar, ‘See More, Live More’, sy’n amlygu manteision celf a diwylliant i iechyd a llesiant.
Dros yr haf, cymeron ni ran ym menter ddiweddaraf Art Fund, sy’n treialu darn newydd o dechnoleg sy’n monitro tonnau’r ymennydd ac yn delweddu’r canlyniad mewn amser go iawn.
Roedd gan ymwelwyr ein horiel opsiwn i fonitro tonnau eu hymennydd mewn amser go iawn wrth ymgysylltu â’r gwaith celf, i ddangos yr effaith gall celf ei chael ar ymennydd ac emosiynau pobl.
Fel sefydliad, rydyn i’n gweithio’n barhaus i greu gofod croesawgar lle gall pobl ymlacio, ymgysylltu a dysgu, a gobeithio y gallwch chi hefyd gymryd pum munud o amser hamdden i helpu eich iechyd a’ch llesiant!