Dywedwch helo wrth Clwb Chapter
- Published:
Clwb Chapter yw ein cynllun am ddim newydd sbon i bobl 16 – 30 oed.
Drwy’r flwyddyn, rydyn ni’n cynnig rhaglen gyffrous o arddangosfeydd, perfformiadau, ffilmiau a digwyddiadau cyfranogol, ochr yn ochr â chyfleoedd i chi gyd-greu gweithgareddau gyda ni, neu ymlacio yn awyrgylch bywiog ein caffi bar.
Ymwelwch â ni i weld y ffilmiau mawr ac indi diweddaraf, ymgollwch mewn perfformiad arbrofol, mwynhewch ein gigs misol gyda rhai o ddoniau cerddorol gorau Cymru, taniwch eich dychymyg am ddim yn yr oriel, neu treuliwch amser â ffrindiau.
Mae Clwb Chapter yn gynnig ffyrdd fforddiadwy i chi fwynhau’r holl bethau anhygoel rydyn ni’n eu cynnig. Gallwch hefyd fod yn rhan o’r cymuned ehangach sy’n cynhyrchu rhywfaint o’n rhaglen ac sy’n ein cynghori ar y ffyrdd y gallwn ni ysbrydoli, denu a chefnogi artistiaid, pobl greadigol, a chynulleidfaoedd ifanc.
Clwb Chapter
Os ydych chi rhwng 16 a 30 oed, hoffen ni eich croesawu chi i Glwb Chapter. Gallwch ymuno am ddim, ac elwa ar yr holl gynigion gwych yma:
- Dau docyn sinema am ddim pan fyddwch chi’n ymuno (i’w defnyddio yn y mis cyntaf)
- Tocynnau sinema, theatr a digwyddiadau am £5* yn unig
- Dim ffi archebu (£1 fel arfer)
- 10% oddi ar fwyd a diod meddal yn ein caffi
- Dewch â ffrind rhwng 16-30 oed gyda chi am yr un pris tocyn
- Cyfleoedd i ddod ata’i gilydd a chwrdd ag aelodau eraill
- Cynigion a gostyngiadau arbennig gan ein cymuned greadigol
*mae eithriadau i hyn
Find out more
-
-
-
-
Sinema
Dewch i ddarganfod eich hoff ffilm newydd neu ailddarganfod hen glasur, a phrofi sinema gwbl unigryw.
Cymerwch gip ar y digwyddiadur ffilmiau. -
-
Theatr
O artistiaid lleol sy’n dechrau arni i gynyrchiadau teithiol rhyngwladol, o gabare comedi i waith newydd.
Cymerwch gip ar y digwyddiadur perfformiadau. -