CYHOEDDI DEAF GATHERING CYMRUGŴYL DAN ARWEINIAD POBL FYDDARBAWB!

  • Published:

5-8 MEDI 2024

Gŵyl yng Nghaerdydd dan arweiniad pobl fyddar yw DEAF GATHERING CYMRU, dan arweiniad Canolfan Gelfyddydau Chapter, yr artist, ymarferydd ac ymgynghorydd hygyrchedd creadigol byddar Jonny Cotsen, a’r artist a’r ymgynghorydd mynediad byddar Heather Williams. Mae’r dathliad pedwar diwrnod ar agor i bawb, ac yn adeiladu ar lwyddiant gŵyl Byddar gyda’n Gilydd y llynedd, gan gynnig rhaglen ddeinamig o ddiwylliant a sgyrsiau gyda safbwyntiau byddar yn ganolog iddi.

Cynhelir y digwyddiad yma gan bobl fyddar ac ar gyfer pobl fyddar, ond mae croeso cynnes i bobl sy’n clywed hefyd. Cefnogir y rhaglen gyda Iaith Arwyddion Prydain, capsiynau byw, a chyfieithu ar y pryd o Iaith Arwyddion Prydain i Saesneg.

Mae DEAF GATHERING CYMRU yn cynnig pedwar diwrnod o ddigwyddiadau, gweithgareddau, sgyrsiau a pherfformiadau, gyda phopeth o ioga i theatr, o symposiwm i noson gomedi meic agored! Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim, gan ein bod ni am gadw’r ŵyl yn agored i bawb!

Nos Iau 5 Medi, byddwn ni’n dechrau ar y dathliadau gyda pherfformiad drymio yn y caffi bar. Yn dilyn sioe llawn dop y llynedd, rydyn ni’n falch o groesawu’r digrifwr Gavin Lilley ’nôl, a fydd yn rhannu ei straeon doniol am iaith, bywyd a diwylliant drwy harddwch iaith arwyddion. Gyda chapsiynau byw a dehongliad troslais, mae modd i gynulleidfaoedd byddar ac sy’n clywed fwynhau hiwmor chwareus Gavin.

Ddydd Gwener 6 Medi, byddwn ni’n cynnal Symposiwm Deaf Gathering, lle bydd cyfle i sgwrsio am lesiant byddar, pam fod cynhwysiant yn bwysig, pwysigrwydd modelau rôl o Gymru a mwy. Bydd y prif areithiau’n cael eu rhoi gan Sara Rhys Jones, Ruth Montgomery, Shaun Fitzgerald a Levi Slade. Yn dilyn diwrnod o sgyrsiau bydd digwyddiad Dragons’ Den Byddar, lle bydd cyfle i chi gyflwyno eich syniadau busnes i banel o feirniaid arbenigol, fydd yn cynnwys Gavin Lilley, Jonny Cotsen, Shaun Fitzgerald, Rubenna Aurangzeb-Tariq a Sara Rhys Jones, wedi’i gyflwyno gan Heather Williams.

Ar yr ail ddiwrnod hefyd bydd Chapter MovieMaker, sef dangosiad o ffilmiau byrion sydd wedi’u creu gan wneuthurwyr ffilm byddar, ac yn Theatr Seligman bydd The Rest of Our Lives gan Jo Fong a George Orange, lle byddan nhw’n trafod bywyd canol oed gyda hiwmor, tynerwch, a’r optimistiaeth ryfeddaf. Mae’r perfformiad yma’n cynnwys dehongliad Iaith Arwyddion Prydain integredig gan Katie Fenwick.

Bydd Dydd Sadwrn yn ddiwrnod prysur gyda marchnad dan arweiniad pobl fyddar, gweithdy clyweledol gyda Ruth Montgomery, teithiau tywys Iaith Arwyddion Prydain yn yr oriel gydag Our Visual World, gweithdy comedi Gavin Lilley, Clwb Sinema Byddar gyda Heather Williams, a chyfle i roi tro ar gomedi byw yn ein Noson Meic Agored. Byddwn ni’n cloi’r noson gyda DJ Tyler yn y caffi bar.

Byddwn ni’n arafu i lawr ychydig ddydd Sul, gyda chyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol ac ymlaciol, gan gynnwys clwb llyfrau Sarah Marsh, Ioga Byddar gydag Emma Callaghan, gweithdai celf gydag Emily Rose a Vicky Barber-Crimes a llawer, llawer mwy...

Tocynnau ar werth yn fuan! I aros mewn cysylltiad, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @deafgatheringcymru neu cofrestrwch i gael cylchlythyr Chapter yma: https://www.chapter.org/

Cefnogir DEAF GATHERING CYMRU drwy haelioni Cyngor Celfyddydau Cymru, SignHealth, Cadwyn, CCHA, Eversheds Sutherland, Linc a Tai Pawb.