Safbwynt(iau)

  • Published:

Lleisiau pwy sy’n cael eu clywed mewn amguedd­feydd? Hanesion pwy sy’n cael eu hadrodd? A sut mae edrych tua’r gorffennol yn ein helpu i greu dyfodol gwrth-hiliol? 

Dyma gwestiynau hanfodol y mae saith artist o dras ethnig a diwylliannol amrywiol o bob cwr o Gymru yn eu taclo yn rhan o Safbwynt(iau), rhaglen gelfyddydol arloesol lle mae artistiaid yn rhoi llais newydd i straeon gwrthrychau o'r casgliad cenedlaethol, gan ail-ddychmygu a rhoi persbectif newydd ar hanes Cymru; herio ein rhagdybiaethau a rhoi sylw i'r straeon a wthiwyd i'r ymylon.

Mae Safbwynt(iau) yn datgelu hanesion cudd y casgliadau cenedlaethol, o 'webs', sef brethyn Cymreig a ddefnyddiwyd i greu dillad i bobl o Affrica gafodd eu cipio a'u caethiwo, i soffa goch foethus Robert Clive, ffigwr allweddol yn hanes trefedigaeth Prydain yn India. Mae'r rhaglen yn mynd i'r afael â gwaddol cymhleth a phoenus, yn taflu goleuni newydd ar y gorffennol ac yn gosod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy cynhwysol sy'n cydnabod y cyfraniadau a’r profiadau amrywiol sydd wedi siapio Cymru a'r byd.

Mae Safbwynt(iau), sy'n broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae Chapter yn gweithio gyda Sophie Mak-Schram ar y prosiect hwn.

Disgrifiad

Mae Sophie yn canolbwyntio ar rym – pwy sydd â'r grym, sut mae'n gweithio a beth mae'n ei wneud – o fewn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chanolfan Gelfyddydau Chapter. Trwy weithio gydag ystod o bobl – ymgyrchwyr, gweithwyr cymuned, artistiaid, staff amgueddfa – maen nhw'n datblygu 'offer' cydweithio. Mae’r ‘offer’ yn amrywio o dempledi hygyrchedd i ddarnau sain a megaffonau wedi’u haddasu, ac yn ymyrryd yn y strwythurau grym er mwyn cynnig dulliau neu gyfleoedd i ddysgu ar y cyd neu gydweithio yn decach. Bydd yr 'offer' yn cael eu harddangos ochr yn ochr â gwrthrychau allweddol o gasgliad yr amgueddfa y mae Sophie a'i chydweithwyr wedi gweithio gyda nhw, gan gynnwys y Casgliad Allestyn Ysgolion a'r coridor Celf Asiaidd. Byddan nhw'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Cymru o fis Mai 2025 ymlaen ac yn Chapter o fis Medi 2025 ymlaen.

"Mae dad-drefedigaethu yn cynnwys gwyrdroi nifer o'r gwerthoedd a'r strwythurau sydd ar hyn o bryd yn gorthrymu'r rhan fwyaf ohonom. Y cwestiwn, mewn cyd-destun Ewropeaidd, yw: a oes modd dad-drefedigaethu tra bod y safbwynt canolog yn drefedigaethol? Rydw i wedi bod yn gweithio ar themâu yn ymwneud â'r cwestiwn yma yn fy ngwaith artistig ac academaidd ers amser hir, ac mae'n gyffrous i fod nawr yn gweithio yn benodol ar safbwynt Cymreig, a Chaerdydd yn benodol, sy'n ddinas a chanddi lawer o hanesion cymhleth."

—Sophie Mak-Schram

Bywgraffiad

Mae'r radicaliaeth sy'n bosibl yn yr 'ac' rhwng celf ac addysg yn bwysig i Sophie Mak-Schram. Mae'n gweithio gydag eraill, o ran ei dull a'i ffurf. Mae ei gwaith yn cwmpasu addysg brofiadol, ymarfer ar y cyd ac ymchwil (artistig). Mae'n dod â phobl ynghyd, yn ysgrifennu, yn darllen, yn creu gwrthrychau a'u defnyddio i ddeall neu wrando, ac mae'n hwyluso ac yn perfformio.

  • Oriel

    Mae Oriel Chapter ar agor ddydd Mawrth i dydd Sul, 11yb - 5yp.

  • Ffrindiau

    Rhowch eich cyfeillgarwch yn rhodd a dewch â chelf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel i Gymru.

  • Gwasg a'r Cyfryngau

    Rydyn ni’n croesawu ymholiadau ffilmio gan y wasg, cleientiaid masnachol ac artistiaid/gwneuthurwyr ffilm newydd.

  • Cenhadaeth

    Canolfan ryngwladol ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes yw Chapter.