Refugee Week at Chapter

  • Published:

Rhwng 1724 Mehefin yn Chapter, dewch i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid gyda ffilmiau sy’n rhannu straeon ffoaduriaid a mudwyr, Gŵyl Ffilm SAFAR – gŵyl fwyaf Prydain o sinema Arabaidd, cyfle i ganu gyda Chôr Un Byd Oasis, a mwy.

Wythnos Ffoaduriaid yw gŵyl gelfyddydau a diwylliant fwyaf y byd sy’n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio noddfa.

Ffilmiau

Diwrnod Wcráin

Ddydd Sul 16 Mehefin, ar Ddiwrnod Wcráin, bydd ffilmiau o Wcráin yn cael eu dangos am ddim, yn cynnwys Hutsulka Ksenya, ffilm ramantus ac annwyl sy’n addas i’r teulu, wedi’i gosod ym Mynyddoedd Carpathia ym 1939.

Wedi’i gosod yn ystod rheolaeth greulon uchelwyr Gwlad Pwyl, mae Dovbush yn adrodd stori dau frawd sydd ar herw wrth geisio dial am lofruddiaeth eu rhieni. Ond mae’r ddau frawd yn troi’n ddau elyn: mae un yn dyheu am arian, a’r llall am gyfiawnder.

Ffilm olaf y dydd fydd 20 Days in Mariupol gyda thrafodaeth banel. Mae’r ffilm yn dilyn tîm o newyddiadurwyr o Wcráin sy’n sownd yn ninas Mariupol, sydd dan warchae, wrth iddyn nhw ymlafnio i barhau â’u gwaith yn dogfennu erchyllterau’r rhyfel. Dyma ffilm hynod bwysig, o ran llwyddiant ym maes ffilm (gyda gwobrau rhyngwladol) ond mae hefyd yn destament i bŵer newyddiaduraeth mewn rhyfel. https://www.eventbrite.co.uk/e...

Ffilm am Seydou a Moussa yw lo Capitano, sef dau fachgen yn eu harddegau o Senegal sy’n gadael Dakar am yr Eidal. Mae’n stori epig hynod emosiynol a gonest, ond nid yw’n colli golwg ar effeithiau dynol yr argyfwng mudo.

Dangosiadau rhwng 17 a 20 Mehefin, gyda chyflwyniad gan Ŵyl Ffilmiau’r Eidal ar 17 Mehefin, 6.10pm.

Gŵyl Ffilmiau SAFAR:

Gŵyl Ffilmiau SAFAR yw’r ŵyl fwyaf ym Mhrydain sy’n ymroddedig i waith sinema o’r byd Arabaidd. Yn 2024 mae’r ŵyl yn dod â dros 50 o ffilmiau o 15 o wledydd at ei gilydd, gyda’r nod o dynnu sylw at y realiti beunyddiol sy’n wynebu pobl ledled y byd Arabaidd.

Dyma fydd y nawfed tro i’r ŵyl gael ei chynnal, a bydd yn digwydd rhwng 18 a 30 Mehefin 2024 yn Chapter ac ar draws gwledydd Prydain, gyda ffilmiau o Balesteina, Swdan a Yemen.

Gweithdy Canu

Gweithdy canu awr o hyd gyda Chôr Un Byd Oasis. Yn dilyn y sesiwn bydd perfformiad am ddim yn y caffi bar.

Mae Côr Un Byd Oasis yn croesawu pobl sy’n ceisio noddfa yng Nghymru. Drwy ddawnsio a chanu am heddwch ac undod, mae eu hoptimistiaeth heintus yn chwalu rhwystrau i gefnogi pawb i deimlo’n ddiogel ac wedi’u gwerthfawrogi.

Mae’r côr yn achubiaeth i lawer o bobl sy’n wynebu gorfod ailddechrau eu bywyd mewn gwlad newydd. Mae cerddoriaeth yn goresgyn y rhwystrau yma, gan alluogi pobl i wneud ffrindiau newydd a chreu cymuned gyda’i gilydd.

Perfformiadau

Theatr Al Harah: Llais i’r Theatr a a Diwylliant ym Mhalesteina

Ymunwch â Chapter mewn sgwrs gyda Marina Barham, Cyfarwyddwr Cyffredinol Theatr Al Harah ym Methlehem, Palesteina. Bydd Marina’n rhannu ei safbwyntiau o’r sefyllfa bresennol ym Mhalesteina a’r rôl mae theatr yn gallu ei chwarae wrth helpu plant, pobl ifanc a’r gymuned i oresgyn trawma.

Marina Barham yw cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Cyffredinol Theatr Al-Harah, ac mae wedi bod yn weithredwr diwylliannol gweithgar ym Mhalesteina, y Dwyrain Canol ac Ewrop ers 1998. Mae Theatr Al Harah yn credu bod gan y theatr botensial i newid bywydau’r rhai sy’n creu gwaith theatr a’r rhai sy’n ei wylio. Mae’n creu gwaith cymhellol i blant, pobl ifanc ac oedolion, sy’n heriol ond yn deimladwy, yn hygyrch, a bob amser yn onest. Mae’n teithio’n lleol, yn rhanbarthol ac yn rhyngwladol, gan gyrraedd gwersylloedd ffoaduriaid, pentrefi, dinasoedd, ac ardaloedd sydd wedi’u hymyleiddio.