
DYFARNIAD Y GORUCHEL LYS AR GYDNABYDDIAETH RHYWEDD
- Published:
Rydyn ni’n siomedig ac yn hynod bryderus ynghylch dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys nad yw hawliau menywod sy’n seiliedig ar ryw yn cynnwys menywod traws. Rydyn ni’n credu y bydd hyn yn arwain at oblygiadau niweidiol i bobl Draws ac LHDTCRhA+.
Rydyn ni’n sefyll mewn undod gyda phobl draws, rhyngryw ac anneuaidd, ac yn falch o ddathlu Chapter fel sefydliad sy’n cydnabod hawliau pobl i hunan-adnabod.
Bydd y penderfyniad yma’n effeithio ar nifer o’n timau, eu ffrindiau a’u teuluoedd, a’r grwpiau a’r unigolion sy’n ymweld â ni. Rydyn ni’n gweithio i gynnwys, ac nid gwahaniaethu, a hoffem i bawb deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu mwynhau eu profiad gyda ni.
I’n ffrindiau a’n cymunedau traws, os oes angen lle tawel arnoch i ymgynnull, myfyrio a thrafod, gallwn gynnig Gofod Cymunedol Peilot am ddim i chi. Os hoffech ei archebu, anfonwch e-bost at Rory.Duckhouse@chapter.org.
Er diogelwch a chysur pawb, mae ganddon ni dai bach pob rhywedd ac un rhywedd drwy gydol yr adeilad, ac rydyn ni’n annog ymwelwyr i ddefnyddio’r rhai sy’n cyd-fynd â’u hunaniaeth rhywedd nhw. Mae Cod Ymddygiad ganddon ni hefyd a gofynnwn i’n holl gydweithwyr ac ymwelwyr weithredu’n unol â’r cod.
Cymorth
Trans Aid Cymru: hello@transaid.cymru
Llinell Gymorth Gendered Intelligence: 0800 640 8046, WhatsApp ar 07592 650496, e-bostsupportline@genderedintelligence.co.uk
Llinell Gymorth LHDT+ Cymru: 01792 650777
Umbrella Cymru: 0300 302 3670 neu info@umbrellacymru.co.uk