Mae ein Cyntedd Sinema yn ardal di-alcohol.

  • Published:

Rydyn ni eisiau i bawb deimlo’n ddiogel ac wedi’u croesawu yma, ac mae hyn yn cynnwys creu llefydd i ddod at ein gilydd, i weithio, ac i ymlacio sy’n rhydd o alcohol.

O 1 Awst bydd ein Cyntedd Sinema yn ardal di-alcohol*.

Os hoffech wydr sydd heb ddod i gysylltiad ag alcohol, gofynnwch i dîm y caffi bar weini eich diod mewn gwydryn glas. Dim ond ar gyfer diodydd meddal rydyn ni’n defnyddio’r rhain.

*Nid yw hyn yn berthnasol i ddigwyddiadau a sesiynau llogi preifat

Diolch i’r Privilege Café gyda Mymuna Soleman am eu cyngor a’u harweiniad parhaus.