Ntiense Eno-Amooquaye: Crashing the Glass Slippers 

  • Published:

20 Gorffennaf 2024 — 6 Hydref 2024

Ym mis Hydref 2024, bydd Chapter yn cyflwyno arddangosfa newydd gan yr artist Ntiense Eno-Amooquaye. Dyma fydd arddangosfa unigol fwyaf yr artist hyd yma, a bydd yn canolbwyntio ar gorff newydd o waith sy’n cynnull hanes a iaith weledol hunan-bortreadaeth, gan greu gofod di-ben-draw ar gyfer ail-ddychmygu’r hunan. Yn ganolog i Crashing the Glass Slippers mae ehangder byd artistig amlddisgyblaethol Eno-Amooquaye, mewn cyfnod pan mae cydnabyddiaeth a diddordeb cynyddol yn ei harfer; cafodd Ddyfarniad i Artistiaid gan Sefydliad Paul Hamlyn yn 2022 ac fe gynhaliodd arddangosfa unigol, African Bird Dynasty yn White Columns, Efrog Newydd yn ystod yr un flwyddyn. 

Ar gyfer ei harddangosfa yn Chapter, mae Eno-Amooquaye yn myfyrio ar ffurfiad eiconau diwylliannol, gan lunio ei hunan fel gweledigaethwraig drwy greu byd cosmig sy’n meithrin hanesion personol, straeon, a’r arsylwadol. Gan weithio’n feiddgar rhwng ffiniau a thu hwnt i ffiniau, mae’r rhyng-chwarae rhwng y gweledol, yr ysgrifenedig a’r gair llafar yn ganolog i arfer Eno-Amooquaye. Yn yr arddangosfa yma, mae’n dod â ffotograffiaeth, darluniau, tecstilau, ffasiwn a pherfformiadau newydd at ei gilydd am y tro cyntaf.

Bydd casgliad o ddillad cerfluniol i’w gweld, yn cynnwys ffrogiau, clogynnau, a siwtiau trowsus, oll wedi’u dylunio gan yr artist. Gan gyfeirio at wisgoedd hanesyddol a couture avant-garde, maen nhw’n ymddangos hefyd yn ei darluniau caleidosgopig. Mae hi’n eu gwisgo a’u hymgorffori mewn cyfres syfrdanol o hunanbortreadau ffotograffig a pherfformiadau ar ffilm, gan eu gwneud nhw’n byrth at drawsnewid. 

Yn yr oriel olaf, caiff casgliad o gerddi newydd ei berfformio i gamera mewn gosodwaith tair sgrin. Fe’u datblygwyd ar ôl ei harddangosfa African Bird Dynasty yn White Columns, gan adeiladu ar ei phrofiadau yn ninas Efrog Newydd, ac maen nhw’n dychmygu bywydau eiconau diwylliannol. Maen nhw wedi’u cyfansoddi o glytwaith o eiriau ac ymadroddion cryf fel ‘Union holds, protest touches’ a ‘The oak sounding as doorbell’, a chânt eu perfformio gan Eno-Amooquaye yn y dillad sydd ar ddangos. Mae dimensiwn ei llais, rhythm ei geiriau, a’i phresenoldeb unigryw yn dal gofod o fod, lle rydyn ni’n ymryddhau oddi wrth ystyron clir iaith ac yn gwrando o’r newydd – gan ffurfio cysylltiadau newydd rhwng y geiriau a’r byd. Rydyn ni’n dod ar draws llinellau o’r cerddi mewn croglenni sidan mawr fel baneri ar draws gofod yr oriel, lle mae testun print sgrin yn cyd-fynd â delweddau sy’n cyfleu pensaernïaeth, Yoruba a motiffau a cherfluniau Ashanti a motiffau o fyd natur. Fel ei cherddi, mae’r delweddau yma’n plethu cosmoleg o gof a chysylltiadau ar draws lle ac amser. 

Mae Eno-Amooquaye yn gofyn iddi hi ei hunan yn barhaus, “ble mae pobl yn dod o hyd i fi yn yr arddangosfa pan fydda i ddim yno?”. Mae ei gwaith eang o greu bydoedd, sydd â’u seiliau mewn dychymyg, profiad amlsynhwyraidd a materoldeb, yn golygu ei bod yn holl-bresennol.  

Mae Ntiense Eno-Amooquaye yn aelod o’r gasgleb Intoart yn Llundain.