Nadolig yn Chapter 2024

Ymunwch â ni am bryd cartref Nadoligaidd rhwng dydd Llun 18 Tachwedd a dydd Iau 24 Rhagfyr, wedi’i baratoi’n ffres gan ein Prif Gogydd Simmie Vedi a’i thîm. 

Gyda chynhwysion lleol wedi’u gweini â chariad, dyma’r ffordd berffaith o ddathlu’r tymor gyda ffrindiau a theulu. 

  • Published:

Fanylion archebu

Bydd cinio Nadolig ar gael o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 12-6pm.

Gallwn ddarparu ar gyfer grwpiau o rhwng 4 a 20 o bobl. Os hoffech archebu ar gyfer grŵp mwy, cysylltwch â Simmie i drafod.

__

Archebwch drwy e-bost i Christmas.Lunch@chapter.org gyda dewis bwyd pob aelod o’r grŵp a gwybodaeth am unrhyw alergeddau. Lleiafswm archebu – 4 o bobl. Rhaid archebu o leiaf 7 diwrnod ymlaen llaw.

Mae angen blaendal o £5 y pen wrth archebu, ac nid oes modd ad-dalu hwn. Talwch drwy BACS i Chapter Trading Ltd 309894 02608896 gan ddyfynnu enw a dyddiad yr archeb. Unwaith y byddwn ni’n derbyn y taliad yma, bydd eich archeb wedi’i chadarnhau.

Ni allwn gynnig cinio Nadolig os nad ydych chi wedi archebu ymlaen llaw.