Cyflwyno Simmie Vedi – Prif Gogydd
- Published:
Rydyn ni’n falch o groesawu ein Prif Gogydd, Simmie Vedi, sydd â chyfoeth o brofiad yn creu prydau blasus a thymhorol sy’n arddangos y gorau o gynnyrch Cymru.
Ers iddi ymuno â ni ym mis Mawrth, mae Simmie wedi lansio bwydlen newydd flasus sy’n defnyddio cyflenwyr lleol a chynaliadwy, i gynnig bwyd bendigedig llawn blas. Llynedd, roedd Simmie’n cynrychioli Cymru ar raglen goginio Great British Menu y BBC.
Sut dechreuaist ti yn y maes arlwyo?
Camais i i’r byd arlwyo yn fy ugeiniau cynnar, pan o’n i’n astudio’r gyfraith. Allwn i ddim gweld dyfodol i fy hunan yn y maes hwnnw, a ches i fy annog gan fy nhad i ddilyn fy angerdd am fwyd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, dyma ni – a dw i heb feddwl dwywaith ers hynny!
Beth yw’r cyflawniad rwyt ti fwyaf balch ohono yn dy swydd newydd yn Chapter?
Cynnal ein Iftar cyntaf erioed, a choginio prydau bwyd stryd yng ngŵyl Printiedig ym mis Mehefin. Dw i wrth fy modd gyda digwyddiadau lle mae cyfle i wneud rhywbeth ‘tu allan i’r bocs’, a lle galla i ddefnyddio fy mhrofiad amrywiol. Mae hefyd yn wych dod â fy nhîm ar y daith gyda fi pan fydd ganddon ni rywbeth gwahanol i’w wneud!
Beth yw dy hoff beth am weithio yn Chapter?
Fy nhîm! Dw i wrth fy modd gyda fy nhîm! Maen nhw’n fy ngwneud i’n falch bob dydd: y ffordd maen nhw’n cymryd balchder yn yr hyn maen nhw’n ei goginio, a pha mor anhygoel maen nhw am gyflawni beth rwy’n ei ofyn ganddyn nhw. Y cyfan dw i wedi bod ei eisiau erioed yn fy swydd yw cael tîm gwych, a dw i’n teimlo’n freintiedig o gael hynny yma.
Rhywbeth amdanat ti nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Galla i reidio ceffyl yn yr arddull Gorllewinol a defnyddio lasŵ!
__________________________________________________________________________
Mae ein caffi bar yn agor bob dydd am 8.30am, gyda bwydlen brecwast yn dechrau am 9am, ac mae ein cinio Sul poblogaidd gyda’r trimins i gyd ar gael o 12pm tan iddo werthu allan! Mae’r gwasanaeth bwyd yn dod i ben am 6pm o ddydd Llun i ddydd Mercher ac 8pm o ddydd Iau i ddydd Sadwrn. Mae ein bar ar agor yn hwyr ac rydyn ni’n gweini amrywiaeth o fyrbrydau cartref blasus tan yn hwyr.