i

Chwilio am le fforddiadwy?

  • Published:

Ydych chi’n artist neu’n grŵp heb gyllid sy’n chwilio am le fforddiadwy i weithio/​ymarfer?

O 1 Ebrill ymlaen, byddwn ni’n agor Theatr Seligman a’r Llofft i archebion ar gyfer y mis i ddod ar gyfradd o £40 y dydd (8 awr) neu £5 yr awr i artistiaid a grwpiau heb gyllid sydd angen lle i greu a datblygu gwaith.

Nid yw mynediad i’r mannau yma’n cynnwys cymorth technegol, ond mae modd cynnwys system PA syml, pan fydd hi ar gael.

Mae’r cynnig ar agor i artistiaid o bob disgyblaeth.

Gallwch gael mwy o wybodaeth ac archebu ystafell drwy anfon e-bost i theatre@chapter.org.

  • Cenhadaeth

    Canolfan ryngwladol ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes yw Chapter.

  • Theatr

    O artistiaid lleol sy’n dechrau arni i gynyrchiadau teithiol rhyngwladol, o gabare comedi i waith newydd.

    Cymerwch gip ar y digwyddiadur perfformiadau.