Mae Hear We Are wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Prosiect y Flwyddyn 2023 Gwobrau’r Loteri Genedlaethol
- Published:
Mae prosiect Hear We Are yn apelio am bleidleisiau i gael eu coroni’n Brosiect y Flwyddyn 2023 gan y Loteri Genedlaethol. Pleidleiswch yma!
Mae Hear We Are wedi cael eu dewis o blith 3,750 o fudiadau ledled Prydain i fod ar y rhestr fer, er mwyn cyrraedd cam pleidlais y cyhoedd yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, sy’n dathlu pobl a phrosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau rhyfeddol gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol.
Mae 17 o enwau ar y rhestr fer o bob rhan o wledydd Prydain, a bydd pob un yn cystadlu mewn pleidlais gyhoeddus dros bedair wythnos rhwng 11 Medi a 9 Hydref, i gael eu henwi’n Brosiect y Flwyddyn gan y Loteri Genedlaethol. Bydd yr enillwyr yn cael gwobr ariannol o £5,000 ar gyfer eu prosiect, a thlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.
Prosiect o dan arweiniad pobl Fyddar yw Hear We Are, sydd wedi cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol ac sy’n archwilio safbwyntiau rhyngblethol pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn y sector creadigol, neu sydd wedi’u heithrio ohono. Gan archwilio sut gall safbwyntiau a phrofiadau’r cyfranogwyr ddod at ei gilydd i greu newid cadarnhaol, maen nhw’n gweithio i wella mynediad at y sector ar gyfer pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, drwy agor deialog a chreu strwythurau cymorth a chyflwyno mawr eu hangen.
Ers i’r prosiect ddechrau yn 2021, mae’r tîm - sy’n cael ei arwain gan yr ymgynghorydd creadigol a’r artist perfformio Byddar Jonny Cotsen - wedi gweithio gyda Chapter i sefydlu rhwydwaith o fannau diogel i bobl Fyddar a Thrwm eu Clyw ledled Cymru gael cwrdd, rhannu profiadau, a phrofi syniadau creadigol. Gan adeiladu grwpiau rhanbarthol, dan arweiniad mentoriaid creadigol Byddar, mae’r tîm wedi helpu i feithrin a datblygu doniau, gan annog sector celfyddydol sy’n fwy hygyrch i bawb, gyda’r cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu profiadau byw er mwyn llywio a siapio digwyddiadau.
Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar ym mis Mai, trefnodd y tîm ddigwyddiad tri diwrnod Deaf Together, sef yr ŵyl gyntaf o dan arweiniad pobl Fyddar yng Nghymru, a oedd yn arddangos doniau creadigol anhygoel pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw. Y gobaith yw y bydd yr ŵyl yn dod yn ddigwyddiad blynyddol, ac mae’r nesaf wedi’i chynllunio ar gyfer mis Medi 2024. Er mwyn gwireddu hyn, maen nhw’n gofyn am gymorth drwy eich pleidlais i ennill Prosiect y Flwyddyn 2023 Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.
Er mwyn pleidleisio am Hear We Are, ewch i lotterygoodcauses.org.uk/awards a dewiswch Hear We Are. Neu defnyddiwch yr hashnod Twitter #NLAHearWeAre. Mae’r bleidlais ar agor rhwng 9am 11 Medi a 12pm 9 Hydref.