Ffilmiau Chapter 25 – 31 Hydref

  • Published:

Mae ein cynnig ffilm i’r teulu yn dychwelyd gyda thocynnau £3 i’r ffilm antur animeiddiedig newydd Dragonkeeper, lle mae tynged dreigiau’n pwyso ar ysgwyddau un ferch fach.

Mae Cinema Rediscovered ar Daith yn cyflwyno Blood Quantum, sef tro newydd ar arswyd lle mae’r gwneuthurwr ffilm o dras Mi’gMaq, Jeff Barnaby, yn gwyrdroi ac yn cwestiynu sarhad cyfreithiau’r ddeunawfed ganrif. Darllen y blog gan ein Rheolwr Rhaglen Cinema Claire Vaughan.

Mae tymor Celfyddyd Cyffro y BFI wedi dechrau! Yn dechrau gyda thair ditectif ddisglair yn Charlie’s Angels, gyda’r styntwraig uchelgeisiol Ria i ddilyn yn Polite Society. Rydyn ni’n cymryd ystrydebau rhywedd ac yn gwthio ’nôl yn galed!

Ar ôl cael deunaw munud o gymeradwyaeth yng Ngŵyl Ffilmiau Fenis ym mis Medi, mae’r ddrama Sbaenaidd, The Room Next Door, yn dod i’n sgrin ni.

Dewch i wylio Dahomey; dyma waith barddonol ac ymdrochol sy’n edrych ar adfeddiad, hunanbenderfyniad, ac adferiad.