Ffilmiau Chapter
23 – 29 Chwefror
- Published:
Ymunwch a ni yn ein sinemâu am sleisen o hwyl mis yma!
Mae Olivia Coleman a Jessie Buckley yn serennu yn y comedi doniol Wicked Little Letters, ble mae grŵp dyfeisgar o fenywod yn dod ata’i gilydd i ffeindio’r troseddwr o lythyron dienw gwarthus llawn rhegi.
Mae Showing Up yn taro ein sgriniau, portread doniol o artist a’r pwysau i gefnogi eich hunan a pharhau i greu’r gwaith celf rydych chi’n credu ynddo.
Yn dychwelyd at ddrama naratif yn ei rhyddhad diweddaraf, mae Wim Wenders yn cyflwyno Perfect Days, ffilm sy’n dilyn gweithiwr Hirayama a’r gyfres o ddigwyddiadau annisgwyl sy’n raddol ddatgelu mwy am ei orffennol ac yn tarfu ei drefn ddyddiol strwythuredig.
Rydyn wrth ein modd i ddathlu bywyd Bob Marley, eicon chwyldroadol ac wedi ysbrydoli cenhedloedd, yn One Love.