Ffilmiau Chapter 12 – 18 Gorffennaf

  • Published:

Mae ein dathliadau Balchder yn parhau yn ein rhaglen sinema yr wythnos hon, gyda rhagor o ffilmiau Cwiar llawn llawenydd, gan gynnwys Orlando: My Political Autobiography.

Bydd ein haf o arswyd yn gwneud i'ch gwallt sefyll ar ei ben gyda thrioleg o deitlau iasol, sef Sleep, Sorcery ac In a Violent Nature.

Bydd Watch Africa yn cyflwyno’r ffilm newydd ei hadfer Bushman am fyfyriwr o Nigeria sy’n profi gwrthdaro diwylliannau yn San Francisco’r chwedegau, a bydd NT: Live yn cyflwyno Clear and Present Laughter, sef cynhyrchiad clodwiw o gomedi bryfoclyd Noël Coward, gydag Andrew Scott (All of Us Strangers, Vanya, Fleabag) yn serennu.