Ffilmiau Chapter 1 – 14 Mawrth
- Published:
Rydyn ni’n archwilio themâu pryfoclyd yn ein sinemâu'r pythefnos yma, gan gynnwys gwrthryfela, radicaleiddio, cof, a chwaeroliaeth.
I ddechrau ni bant yw’r ffilm dogfen deimladwy a gymhellol, Four Daughters, sydd amdan fam a’i pedair merch a aeth i ymladd am ISIS, tra hefyd myfyrio ar hanes cythryblus Tiwnisia yn dilyn y Gwanwyn Arabaidd, sef ymgyrch addawol a ddechreuodd yn y wlad.
Ffilm gyffro sy’n archwilio sut mae eithafiaeth yn gyrru bwlch rhwng pobl yw Shoshana. Wedi’ hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn, mae Shoshana yn edrych ar fywyd yr ysgrifennydd Shoshana Borochov a'i berthynas a Tom Wilkin, pwy weithiodd yn y sgwad gwrthderfysgaeth o’r Heddlu Palestina Prydeinig.
Ymunwch a ni am y daith celfyddyd sinema sef Do Not Expect Too Much From the End of the World, a’i feirniadaeth gymdeithasol ddisglair.
Dychwelyd y crewyr o Jennifer’s Body gyda’i stori serch a chomedi arswyd ddod-i-oed retro Lisa Frankenstein, ac i baru hyn yw’r ffilm i’r teulu am ddim ac sy’n llai erchyll yw Frankenweenie gan Tim Burton.