Canolfan Ffilm Cymru: Ffilmiau Cymreig i’w Gwylio yn 2025
- Published:
O fywyd gormodol Ardalydd ecsentrig o Ynys Môn i anturiaethau yn nhirwedd gyfoethog Laos, mae straeon eclectig gyda chysylltiadau Cymreig yn dod i’r sgrin fawr i ddiddanu cynulleidfaoedd yn 2025.
Dewch ar daith ledled Cymru a thu hwnt eleni, gyda straeon lleol a byd-eang sy’n dod i sinemâu. Mae gan bob un gysylltiadau Cymreig – o’r lleoliadau, i’r cast a thalent y tu ôl i’r camera. Bydd ffilm hir gyntaf Joshua Trigg, sy’n enedigol o Bowys, yn cael ei rhyddhau yn y gwanwyn: Bydd Satu – Year of the Rabbit yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith i Laos i ddilyn dau blentyn ar siwrnai drawiadol wrth iddynt ddod i oed a chanfod eu teuluoedd, cyfeillgarwch a phrydferthwch bywyd beunyddiol. Gyda’r premiere yn digwydd yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance 2025, bydd ffilm hir ddiweddaraf cwmni ie ie Productions, Brides, yn cyflwyno dwy ferch yn eu harddegau sy’n chwilio am ryddid, cyfeillgarwch a theimlad o berthyn pan fyddant yn dianc o’u bywydau yn y DU ac yn mynd ar drywydd peryglus i Syria.
Esbonia’r cynhyrchydd, Alice Lusher, sut y ffilmiwyd Brides yng Nghymru fel rhan o gydweithrediad rhyngwladol:
"Roedd yn fraint o’r mwyaf i ni, dîm ieie productions gydweithio â’r cynhyrchwyr Nicky Bentham (Neon Films – DU) a Marica Stocchi (Rosamont – Yr Eidal) ar BRIDES, sef ffilm gyntaf y Cyfarwyddwr Nadia Fall a’r Ysgrifennwr Suhayla El-Bushra. Dyma gydweithrediad wirioneddol ryngwladol sy’n archwilio themâu byd-eang o hunaniaeth a pherthyn – a ffilmiwyd yng Nghymru, Twrci a Sisili. Fe gefnogodd y Cynhyrchwyr griwiau a busnesau lleol ym mhob gwlad, ac mae wedi bod yn bleser go iawn gweld gwaith a thalent anhygoel yn disgleirio drwy’r ffilm brydferth a phwysig hon. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r ffilm gyda’r byd.”
Bydd y rheiny sy’n chwilio am wefr a drama ar ben eu digon eleni, gan fod gwledd o ffilmiau llawn drama, ffilmiau seicolegol a ffilmiau arswyd yn dod i sinemâu hefyd. Mae cynulleidfaoedd wedi bod yn aros yn eiddgar am Havoc gan y cyfarwyddwr o Gymru Gareth Evans (The Raid). Fe ffilmiwyd yng Nghymru, ac mae’n dilyn Tom Hardy a Forest Whitaker wrth iddynt ymladd eu ffordd trwy isfyd troseddol, gan ddatrys llygredd a chynllwyn ar hyd y ffordd. I ddilyn, daw’r ffilm ddirgel The Man in My Basement sy’n serennu Willem Dafoe, ac sy’n seiliedig ar nofel o’r un enw gan Walter Mosley. Fe’i ffilmiwyd yn Sir Gâr, gyda’r cynhyrchydd o Gymru, John Giwa-Amu, yn rhan o’r tîm. Mae disgwyliadau’n uchel hefyd ar gyfer The Scurry, gan y cyfarwyddwr o Gymru, Craig Roberts a Cliff Edge Pictures. Mae’n dilyn stori swreal dau swyddog difa pla sy’n dod ar draws pla o wiwerod gwallgof sy’n dial ar staff ac ymwelwyr ac yn creu anrhefn pur mewn parc gwlad eco.
Mae hefyd llu o ffilmiau sy’n gryf eu cysylltiadau â threftadaeth Cymru. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn cydweithio ag Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn cyflwyno sgan newydd o’r ffilm Oed yr Addewid (2002) a enillodd wobr BAFTA. Mae’r ffilm sy’n gyflwyniad teimladwy o ddadrithiad gwleidyddol, gofal cymdeithasol a heneiddio hyd yn oed yn fwy perthnasol heddiw, 25 mlynedd ar ôl ei ryddhau. Bydd pecyn o ffilmiau byrion 90 munud o hyd hefyd ar gael o brosiect Cymru Anabl – prosiect blwyddyn o hyd yr Archif sy’n ffocysu ar wella hygyrchedd eu casgliadau ffilm a fideo, yn ogystal â gwella cynrychiolaeth o wneuthurwyr anabl a Byddar yn y casgliadau.
I’r rheiny sy’n hoff o fywgraffiadau, bydd straeon dau ffigwr eiconig o Gymru yn dod i sgriniau yn 2025. Mae ffilm newydd Mad as Birds, Madfabulous yn rhoi darlun o fywyd yr ecsentrig Henry Cyril Paget, sef 5ed Ardalydd Ynys Môn, ac yn serennu’r actor o Gymru Callum Scott Howells (It’s A Sin) ochr yn ochr â Rupert Everett a Siobhán McSweeney. Gan y cwmni cynhyrchu o Gymru, Severn Screen, a’r cyfarwyddwr Marc Evans, bydd Mr Burton yn dilyn stori bywyd cynnar yr actor Richard Burton, ac yn serennu talent o Gymru, Aneurin Barnard ac Aimee-Ffion Edwards, ochr yn ochr â Toby Jones a Lesley Manville. Cip olwg yn unig yw hyn o’r ffilmiau sydd i’w rhyddhau yn 2025, gyda llawer mwy i ddod.
Esbonia Toki Allison, Rheolwr Prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru sut mae prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi rhyddhau ffilmiau megis y rhain:
“Nod Gwnaethpwyd yng Nghymru yw llenwi’r bwlch yn ecosystem y byd ffilmiau, gan greu pont rhwng gwneuthurwyr a dosbarthwyr ffilmiau, gan edrych ar sut mae’r ffilm yn cyrraedd cynulleidfaoedd. Gan gydweithio â sinemâu a gwyliau yng Nghymru, rydym yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael cyfle i weld y straeon hyn fel rhan o brofiad cyfunol arbennig mewn lleoliad sinema. Mae rhywbeth arbennig yn digwydd o ran adrodd straeon yng Nghymru, ac mae safbwynt unigryw sy’n haeddu cael ei weld a’i fuddsoddi ynddo. Mae Cymru yn nifer o bethau, ac rydyn ni’n benderfynol o ehangu ar y naratif hwn.”
Dywedodd Joedi Langley, Pennaeth Dros Dro Cymru Greadigol:
"Mae'n flwyddyn gyffrous ar gyfer ffilm, gyda llawer o deitlau disgwyliedig ar y ffordd. Mae Cymru Greadigol yn falch o fod wedi cefnogi sawl un o'r cynyrchiadau hyn, yn annibynnol a hefyd drwy'r Gronfa Cynhyrchu Ffilmiau Nodwedd trwy Ffilm Cymru – sydd ynddo'i hun wedi cyfrannu at sawl rhyddhad diweddar, gan gynnwys ‘Chuck Chuck Baby’, ‘The Almond and the Seahorse’ a ‘Timestalker’. Mae'r prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru yn tynnu sylw at ehangder y dalent ffilmio sydd gennym yma yng Nghymru, ac yn rhoi llwyfan pwysig i ffilmiau nodwedd newydd trwy godi eu proffil ymhlith cynulleidfaoedd ac yn dathlu cysylltiadau Cymreig pob un, ac mae'n brosiect yr ydym yn falch iawn o'i gefnogi. Rydyn yn edrych ymlaen at flwyddyn lwyddiannus yn 2025 ar gyfer y sector ffilm yng Nghymru.”
Mae prosiect Gwnaethpwyd yng Nghymru (GYNg) Canolfan Ffilm Cymru yn dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Mae’n cynnig gweithgareddau ar hyd y flwyddyn mewn partneriaeth ag arddangoswyr yng Nghymru, gan gynnwys catalog ffilmiau, sy’n gartref i dros 1000 o ffilmiau hir a byr a phodlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru.
Gall cynulleidfaoedd dderbyn y newyddion diweddaraf ynglŷn â ffilmiau Cymreig newydd a’r cyfweliadau diweddaraf drwy ddilyn Gwnaethpwyd Yng Nghymru ar Instagram, Facebook, TikTok, podlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru, YouTube a Letterboxd.
Mae GYNg yn bosib drwy gyllid Cymru Greadigol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (RhCFf) y BFI. Mae RhCFf y BFI yn cynnig cefnogaeth i arddangoswyr ledled y DU, er mwyn hybu rhaglennu diwylliannol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol. Yng Nghymru, arweinir y gweithgarwch gan Ganolfan Ffilm Cymru, dan reolaeth Chapter