Ffilmiau Chapter 7 – 20 Mehefin
- Published:
Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiadau rheolaidd – Clwb Ffilmiau Byddar, Chapter MovieMaker, Clwb Ffilmiau Gwael, a Sgrechiwch fel y Mynnwch – yn ogystal ag ystod o ffilmiau prif ffrwd ac annibynnol.
Dathlwch Wythnos Ffoaduriaid gyda ffilmiau sy’n rhannu straeon ffoaduriaid a mudwyr, gan gynnwys Diwrnod Wcráin, ochr yn ochr â Gŵyl Ffilmiau SAFAR – sy’n ymroddedig i sinema o’r byd Arabaidd.
Gallwch nawr ddod â diod i mewn i’r sinema. Mwynhewch ddiod meddal neu alcoholig, popcorn, danteithion melys a sawrus. Cofiwch: mae pris tocyn wedi codi i £9 (llawn) a £7 (consesiynau). Darllenwch y stori lawn yma.
Ddydd Sul 16 Mehefin, ar Ddiwrnod Wcráin, bydd ffilmiau o Wcráin yn cael eu dangos am ddim, yn cynnwys Hutsulka Ksenya, ffilm ramantus ac annwyl sy’n addas i’r teulu, wedi’i gosod ym Mynyddoedd Carpathia ym 1939.
Mae Dovbush, sydd wedi’i gosod yn ystod rheolaeth greulon uchelwyr Gwlad Pwyl, yn adrodd stori dau frawd sydd ar herw wrth geisio dial am lofruddiaeth eu rhieni. Ond mae’r ddau frawd yn troi’n ddau elyn: mae un yn dyheu am arian, a’r llall am gyfiawnder.
Ffilm olaf y dydd fydd 20 Days in Mariupol gyda thrafodaeth banel. Dyma ffilm hynod bwysig, o ran llwyddiant ym maes ffilm (gyda gwobrau rhyngwladol) ond mae hefyd yn destament i bŵer newyddiaduraeth mewn rhyfel.
Ffilm am Seydou a Moussa yw lo Capitano, sef dau fachgen yn eu harddegau o Senegal sy’n gadael Dakar am yr Eidal. Mae’n stori epig hynod emosiynol a gonest, ond nid yw’n colli golwg ar effeithiau dynol yr argyfwng mudo. Dangosiadau rhwng 17 a 20 Mehefin, gyda chyflwyniad gan Ŵyl Ffilmiau’r Eidal ar 17 Mehefin, 6.10pm.
Gŵyl Ffilmiau SAFAR yw’r ŵyl fwyaf ym Mhrydain sy’n ymroddedig i waith sinema o’r byd Arabaidd. Yn 2024, mae’r ŵyl yn dod â dros 50 o ffilmiau o 15 o wledydd at ei gilydd, ac yn cynnig lle i gynulleidfaoedd archwilio a dathlu amrywiaeth sinema Arabaidd. Dyma fydd y nawfed tro i’r ŵyl gael ei chynnal, a bydd yn digwydd rhwng 18 a 30 Mehefin 2024 yma ac ar draws gwledydd Prydain, gyda ffilmiau o Balesteina, Swdan a Yemen.
Isod gallwch ddarllen am y ffilmiau sydd i ddod dros y pythefnos nesaf!