i

Ffilmiau Chapter 7 – 13 Mawrth

  • Published:

Ymunwch â’r grŵp trafod Indoor Drive-in ar gyfer dangosiad o ffilm David Lynch o 2001, Mulholland Drive, a sgwrs am sut mae Lynch yn edrych ar ffatri freuddwydion Hollywood a’r hunllefau sy’n mudferwi oddi mewn.

Cymerwch gam yn ôl mewn amser i chwedl fflyrtaidd Charles Vidor am foesoldeb yn Gilda.

Rhiant newydd neu’n ofalwr â phlentyn o dan flwydd oed? Dewch â’ch babanod gyda chi i’n ffilmiau wythnosol Sgrechiwch fel y Mynnwch, a gwyliwch ffilm newydd heb boeni am darfu ar eraill!

Wythnos yma, archwiliwch wreiddiau’r grŵp roc eiconig Led Zeppelin yn Becoming Led Zeppelin.