
Ffilmiau Chapter 7 – 13 Chwefror
- Published:
Rydyn ni’n dangos ystod o ffilmiau ac yn cynnal digwyddiadau arbennig, gan gynnwys Of Us gan Jukebox Collective, sy’n myfyrio ar le Cefnfor yr Iwerydd yn hanes y diaspora Du.
Gallwch ymuno â ni hefyd mewn dangosiad untro o Hundreds of Beavers, lle mae’r cyd-seren a chyd-awdur Ryland Brickson Cole Tews yn ymuno â ni mewn sesiwn holi ac ateb.
Gwyliwch ragddangosiad o The Last Showgirl, lle mae’r ddawnswraig o Las Vegas Shelly yn cael ei gorfodi i edrych ar ei bywyd mewn drama deimladwy, gyda recordiad o sesiwn holi ac ateb gyda Pamela Anderson.