Ffilmiau Chapter 6 – 12 Rhagfyr
- Published:
Rieni newydd, gwrandewch! Ydych chi’n chwilio am le ymlaciol i fwynhau ffilm newydd heb boeni am darfu ar eraill? Dewch â’ch babi i ddangosiad Sgrechiwch fel y Mynnwch. Ddydd Gwener yma byddwn yn dangos Nightbitch.
Wedi hir ymaros, mae On Becoming A Guinea Fowl gan y cyfarwyddwr o Gymru, Rungano Nyoni, yn dod i’n sgriniau. Peidiwch â cholli’r ymdriniaeth swreal a bywiog yma â’r celwyddau rydyn ni’n eu dweud wrthon ni’n hunain. Darllenwch ddarn Eric Ngalle Charles, awdur, bardd a dramodydd a aned yng Nghamerŵn ac sy’n byw yng Nghymru, am y ffilm yng Nghylchgrawn Buzz.
Rydyn ni’n cloi ein tymor Art of Action gyda thair ffilm gyffro eiconig, Birds of Prey, Run Lola Run a The Long Kiss Goodnight.
Dewch â'r teulu draw i ffilm llawn cyffro'r wythnos hon, Supergirl!