Ffilmiau Chapter 4 – 10 Hydref
- Published:
Ymunwch â ni i ddathlu ac arddangos rhai o’r ffilmiau gorau o dymor y gwyliau ffilm eleni!
Yn dechrau pethau bydd ein gŵyl ni, Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu, rhwng 5 a 6 Hydref. Galwch heibio i brofi gwaith creu ffilm a diwylliant Japan.
Dewch draw i noson agoriadol Gŵyl Ffilmiau Llundain, gyda phopcorn a diodydd o’r bar, a chamwch nôl mewn amser gyda ffilm Steve McQueen, Blitz, sy’n adrodd taith epig bachgen naw oed o Lundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae Gŵyl Ffilmiau Llundain 2024 ymlaen tan 20 Hydref.
Mae Cinema Rediscovered ar daith ac yn galw heibio i Gaerdydd! Byddwn ni’n dangos adferiad newydd 4k y glasur dyner o Venezuela, El Cine Soy Yo.
Archebwch eich tocynnau ar gyfer diwrnod olaf Gwobr Iris 2024! Darganfyddwch straeon LHDTC+ byd-eang a swyn Caerdydd yn Chapter gyda Goreuon Iris 2024, Vera and the Pleasure of Others a Perfect Endings.