i

Ffilmiau Chapter 4 – 10 Ebrill

  • Published:

Rydyn ni’n dathlu sinema o Gymru yr wythnos yma, gyda rhyddhau Mr Burton, a bydd y cyfarwyddwr Marc Evans, y cast, a’r criw yn ymuno â ni yma ar gyfer sesiwn holi ac ateb.

Dewch ar daith gyda ni i archwilio holl ddirgelwch Twin Peaks dros 25 wythnos! Rydyn ni’n dangos dwy bennod o Twin Peaks bob dydd Sul a dydd Mawrth tan fis Medi.

Gan barhau i arddangos goreuon David Lynch, rydyn ni’n dangos portread telynegol o daith un dyn ar draws perfeddwlad America yn The Straight Story.

Mae’r dathliad ewfforig o bŵer merched, Six the Musical! yn cyrraedd ein sgriniau o’r diwedd.