Ffilmiau Chapter 3 – 9 Ionawr 2025

  • Published:

Rydyn ni’n neidio i 2025 gyda ffilmiau nodwedd newydd sbon, ffilmiau i’r teulu, teithiau bwth taflunio, a thymor o ffilmiau cyffro’r saithdegau, sef Allan o’u Dyfnder.

Ymunwch â ni ar gyfer y ffilm gyffro amserol am dwf yr adain dde, The Order.

Mewn stori dywyll, oeraidd a dwyfol am obsesiwn, mae Nosferatu yn dilyn stori menyw sy’n cael ei phoenydio ac yn dod yn wrthrych serch.

Croeso ’nôl i’n dangosiad misol o ffilmiau byrion a sgyrsiau gyda’r gwneuthurwyr ffilm y tu ôl iddyn nhw, yn nigwyddiad MovieMaker Chapter cyntaf y flwyddyn!

Archwiliwch fyd ffasiwn, straeon tylwyth teg ac eiconau diwylliannol yng nghyfres sinema Crashing the Glass Slippers. Defnyddiwch y cod SLIPPERS5 i gael tocynnau £5.