Ffilmiau Chapter 29 Tachwedd – 5 Rhagfyr

  • Published:

Rydyn ni’n plymio i fyd sinema pylp Mecsico’r chwedegau fel rhan o dymor Celfyddyd Cyffro, gyda bil dwbl o ddwy ffilm gan y cyfarwyddwr René Cardona sydd wedi’u hadfer yn ddiweddar. Ymunwch â ni brynhawn Sul ar gyfer The Bat Woman am 1.50pm a The Panther Women am 3.45pm.

Mae dwy ffilm nodwedd o Ŵyl Ffilmiau Llundain yn dychwelyd i’n sgrin fawr ar gyfer eu rhediad cyntaf. Archebwch eich lle ar gyfer Conclave ac All We Imagine As Light.

Ymunwch â ni i wylio’r ffilm hyfryd o dyner My Favourite Cake, sy’n dilyn Mahin, mam weddw, ar daith o gariad a rhamant.