Ffilmiau Chapter 26 Gorffennaf – 1 Awst
- Published:
Mae ganddon ni raglen ffilm danbaid i chi yr wythnos yma…
Byddwn ni’n dangos ffilmiau i’r teulu am bris isel neu am ddim, gan gynnwys If a Kensuke’s Kingdom. Dim ond £3 yw tocyn (pris arferol £7/£9). Byddwn ni’n cynnig hanner y seddi am ddim drwy ein gwaith gyda sefydliadau ac elusennau lleol, ac mae pob tocyn rydych chi’n ei brynu’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi hyn. Os byddwch chi wedi methu allan ar docyn, rydyn ni’n argymell dod i Chapter gan y bydd unrhyw docynnau sydd heb eu casglu yn mynd ar werth 10 munud cyn i’r ffilm ddechrau. Tra byddwch chi yma, gallwch gasglu pecyn cinio am ddim i unrhyw un o dan 18 oed rhwng 11.30am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
I gyd-fynd â Slime Mother, sef ein harddangosfa newydd gan Abi Palmer, rydyn ni wedi curadu tymor sinema anhygoel sy’n ffurfio byd o gwiardeb amryliw a ffyrdd mwy-na-dynol o fod. Mae’r tocynnau ar gyfer cyfres sinema Slime Mother ar gael am bris gostyngol, sef £5 + ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5 ar y cam prynu.