i

Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Ffilmiau Chapter 25 Ebrill – 1 Mai

  • Published:

Ymunwch â ni yn ein sinemâu ar gyfer drama seicolegol, Julie Keeps Quiet, sy’n dilyn chwaraewraig tenis ifanc sy’n cael ei hannog i godi ei llais ond sy’n penderfynu aros yn dawel pan fydd ei hyfforddwr yn cael ei wahardd o’i swydd.

Mae Deborah Light yn cyflwyno An Autopsy of a Mother, Bear and a Fridge, darn pwerus sy’n datgelu profiadau personol a systemau patriarchaidd sy’n rhoi pwysau ar y corff benywaidd.

Profwch Jam Neo-Eneidiol, lle mae creadigrwydd a byrfyfyr yn dod yn fyw. Ymunwch â ni mewn noson o gerddoriaeth, cysylltu, a chydweithio.