Ffilmiau Chapter 23 – 29 Awst

  • Published:

Rydyn ni’n archwilio materion Traws yn y sinema yr wythnos yma, gan arddangos perfformiadau eithriadol yn Cuckoo, sy’n stori dylwyth teg fywiog am hawliau corff menywod.

Mewn ffilm sy’n 7 awr a 19 munud o hyd, mae Sátántangó gan Béla Tarr yn weithgaredd epig sy’n llenwi diwrnod, fel rhan o dymor Sinema Araf yr haf. Mae’r ffilm yn arsylwi ar drigolion pentre bach yn Hwngari sy’n delio ag ôl-effeithiau Comiwnyddiaeth. Bachwch frecwast blasus o’n caffi bar i’ch paratoi am y diwrnod, a mwynhewch luniaeth yng Nghyntedd y Sinema yn ystod y ddau egwyl, am ddim!

Yn parhau â’r arlwy dros yr haf, ymunwch â’r Minions, Gru a’r criw wrth iddyn nhw gael eu gorfodi i fynd ar ffo rhag Maxime le Mal yn y ffilm am ddim/cost isel i’r teulu wythnos yma, Despicable Me 4.