Ffilmiau Chapter 22 – 28 Tachwedd
- Published:
Rydyn ni’n dechrau’r wythnos yma gyda Watch Africa, a fydd yn ymuno â ni i gyflwyno dangosiad cyntaf Cymru o London Recruits nos Wener am 7.30pm.
Treuliwch eich dydd Sul gyda ni ar gyfer cyfres o ffilmiau o Gymru, gan gynnwys ffilm ddogfen Dylan Goch, Ffa Coffi Pawb, sy’n dilyn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r band ddeng mlynedd ar hugain ar ôl iddyn nhw chwalu. Ymunwch â Dylan ac aelodau’r band mewn sesiwn holi ac ateb wedi’r dangosiad.
Mae ein tymor Celfyddyd Cyffro’n parhau gyda’r Cymry mewn Cyffro. Rydyn ni’n arddangos Twin Town, y tamaid clasurol beiddgar a di-flewyn-ar-dafod o fywyd Cŵl Cymru a lansiodd yrfa Rhys Ifans. Arhoswch wedi’r dangosiad ar gyfer sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr Kevin Allen.