
Ffilmiau Chapter 21 – 27 Mawrth
- Published:
Rydyn ni’n parhau i ddangos gwaith David Lynch yn ein sinemâu, a’r wythnos yma rydyn ni’n dangos Ffilmiau Byrion David Lynch a The Elephant Man.
Dewch â’r teulu gyda chi i ddangosiad Cyd-ganu o Wicked, sef ffilm deulu cost isel yr wythnos, canwch nerth eich pen!
Mwynhewch y ffilm gyffro Americanaidd ddiweddaraf, Opus – gydag Ayo Edebiri yn serennu – wythnos yma.
Mae NT Live ’nôl gyda’u gwaith diweddaraf Dr Strangelove, sef drama ddychan ddoniol a ffrwydrol am Gadfridog yr UDA sy’n sbarduno ymosodiad niwclear.