i

Ffilmiau Chapter 21 – 27 Chwefror

  • Published:

Wythnos yma rydyn ni’n archwilio themâu tir a lle gyda’r ddrama deimladwy To a Land Unknown, sy’n dilyn taith Chatila a Reda, dau ffrind gorau sy’n ffoaduriaid o Balesteina, wrth iddyn nhw gynilo arian i deithio at fywyd gwell.

Mae Watch Africa yn cyflwyno Milisithando, ffilm ddogfen farddonol am gariad sy’n adrodd hanes y Transkei drwy drysorfa o ddeunydd o’r archif, ffilmiau cartref, a ffotograffau personol.

Os ydych chi’n berson ifanc sy’n mwynhau ffilm, ymunwch â ni ar gyfer Gwobrau Gwneuthurwyr Ffilm Ifanc Ewart Parkinson. Rydyn ni hefyd yn cynnal gŵyl fwyaf gwledydd Prydain ar gyfer gwneuthurwyr ffilm newydd, sef Gŵyl Ffilmiau’r Dyfodol y BFI 2025.