Ffilmiau Chapter 2 – 8 Awst

  • Published:

I ddod wythnos yma – Sinema Araf, ffilmiau i’r teulu a mwy

Mae’r tymor Sinema Araf, Will Heaven Fall Upon Us?, yn cyflwyno clasuron myfyriol gan gynnwys Twilight a dathliad o chwedlau dystopaidd cyfareddol Béla Tarr.

Mae ein ffilmiau pris isel ac am ddim i deuluoedd yn parhau wythnos yma gyda Kensuke’s Kingdom. Dim ond £3 yw tocynnau. Rydyn ni’n cynnig hanner y seddi am ddim drwy ein gwaith gyda sefydliadau ac elusennau lleol, ac mae pob tocyn rydych chi’n ei brynu’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi hyn. Gallwch gasglu pecyn cinio am ddim i unrhyw un o dan 18 oed rhwng 11.30am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dyma’ch cyfle olaf i weld yr iasol Longlegs, a Crossing gan Levan Akin, sy’n ddrama wresog a thwymgalon am bosibiliadau trawsnewid.

Ac ar y gorwel... rydyn ni’n edrych ymlaen i arddangos ffilm gyffrous Kneecap; chwedl ffyrnig a doniol am y triawd rap gwrthryfelgar o Belffast, gyda sesiwn holi ac ateb fyw ar 21 Awst.