
Ffilmiau Chapter 18 – 24 Ebrill
- Published:
Wythnos yma bydd Reclaim the Frame yn ymuno â ni i ddangos An Army of Women. Mae’r ffilm ddogfen yma’n cynnig golwg gobeithiol ar ymgyrch sy’n ceisio newid dyfodol menywod ym mhob man. Bydd sesiwn holi ac ateb gyda chapsiynau byw gyda Julie Lunde Lillesæter hefyd.
Cyfle arall i weld On Becoming A Guinea Fowl! Dyma’r ffilm olaf o dymor o ddangosiadau misol Watch Africa. Bydd sesiwn holi ac ateb fyw gyda’r awdur a’r cyfarwyddwr Rungano Nyoni ar ôl y ffilm.
Mae ffilmiau newydd diweddar yn cynnwys Blue Road: The Edna O’Brien Story, y ffilm ddogfen delynegol sydd â chlipiau o’r archif, cyfweliadau, a darlleniadau o’i gwaith.
Rydyn ni’n dangos The Return, gyda Ralph Fiennes a Juliette Binoche yn serennu, sy’n adrodd stori Odysseus sydd wedi’i greithio gan Ryfel Caerdroea ac sy’n ailddarganfod ei gryfder.