
Ffilmiau Chapter 14 – 20 Mawrth
- Published:
Mae’r artist, y cyfarwyddwr a’r gwneuthurwr ffilm clodwiw o Gaerdydd, Tina Pasotra, yn ymuno â ni mewn dangosiad agos-atoch o’i ffilm ddiweddaraf Jamni (2025) yn ogystal â dau o’i gweithiau blaenorol o’r degawd diwethaf.
Rydyn ni’n dathlu gwaith David Lynch eleni, gyda dangosiad o Eraserhead a The Short Films of David Lynch
Gwyliwch y comedi bync Sister Midnight, am wraig newydd rwystredig o Mumbai sy'n darganfod ei mympwy gwyllt.
Bydd cyfle arall i wylio On Falling o Ŵyl Ffilmiau Glasgow 2025, sy’n dangos astudiaeth deimladwy o gymeriad mudwr o Bortiwgal sy’n gweithio fel pigwr mewn warws yn yr Alban.