
Ffilmiau Chapter 14 – 20 Chwefror
- Published:
I nodi Mis Hanes LHDTC+, ymunwch â ni mewn cyfle prin i weld Marble Ass, y ffilm gyntaf o Iwgoslafia gynt i ddangos cymeriadau LHDTC+ yn agored.
Camwch i fyd bywiog o adrodd straeon cwiar gyda chymysgedd campus o ffilmiau byrion animeiddedig o bob rhan o’r byd, yn y dangosiad o Ffilmiau Byrion Cwiar yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn.
Hefyd, mae Rhaglen Ffilm Deithiol Sefydliad Japan ’nôl yn 2025! Yn dangos y goreuon o fyd ffilm a diwylliant Japan drwy lens y thema: Ai fi sy’n iawn? Cyfiawnder, Cyfiawnhad a Barn yn Sinema Japan.