Ffilmiau Chapter 10 – 16 Ionawr

  • Published:

Mae enillwyr y Golden Globes 2025 wedi’u cyhoeddi! Gallwch weld enillydd y Perfformiad Gorau gan Actor mewn Rhan Gefnogi, Keiran Culkin, yn A Real Pain. Mae enwebai’r Ffilm Orau, Nickel Boys, hefyd yn dod i’n sgriniau.

Ymunwch â ni ar gyfer ffilm gyffro o raglen Out of Their Depth wythnos yma, lle mae’r cynhyrchydd Dan Thomas yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar ôl The Long Goodbye. Dilynwch ni ar Instagram @ChapterArtsCentre i weld sut gallech chi ennill crys-T arbennig wedi’i ddylunio gan yr artist Beth Morris o Gaerdydd.

Dyma’ch cyfle olaf i weld Crashing the Glass Slippers yn yr oriel. I ddathlu, rydyn ni’n dangos ffefrynnau’r teulu fel rhan o’r gyfres sinema. Mwynhewch Enchanted, Cruella, 101 Dalmatians a Beauty and the Beast gyda’r teulu am £3 y tocyn!