Eimear Walshe: MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC
- Published:
Rhagddangosiad a pharti agoriadol: Nos Wener 28 Chwefror 2025, 6pm – hwyr
Arddangosfa: 1 Mawrth – 25 Mai 2025
Mae Chapter yn agor arddangosfa unigol gan yr artist o Iwerddon, Eimear Walshe.
MIXED MESSAGES FROM THE IRISH REPUBLIC fydd sioe unigol gyntaf Eimear Walshe yng ngwledydd Prydain, a bydd yn cynnwys gwaith newydd a phresennol gan gynnwys ROMANTIC IRELAND, a arddangoswyd ym Mhafiliwn Iwerddon yng ngŵyl Biennale Fenis 2024. Mae Walshe hefyd wedi creu gwaith comisiwn newydd safle-benodol ar gyfer caffi Chapter, ac ar gyfer yr hysbysfwrdd deunaw metr o led uwchben y fynedfa.
Drwy waith fideo a cherflunio, mae’r arddangosfa’n archwilio cariad a galar am wlad sydd wedi’i chlymu mewn gwaddol trefedigaethol, chwyldro a gwrthryfel, ac addewid heb ei wireddu.
Mae Walshe yn egluro sut mae effaith brwydrau tir Iwerddon wedi siapio gwleidyddiaeth rywiol, perchnogaeth eiddo, a phŵer yn Iwerddon heddiw. Mae gwreiddiau eu gwaith mewn cymuned a chydweithio gan ddefnyddio mathau o ddiwylliant poblogaidd yn chwareus, o hysbysebion gwybodaeth i operâu sebon, i ymdrin â materion o bwys fel ansicrwydd tai, hunaniaeth genedlaethol, ac ymgyrchu.
Yn The Land Question: Where the fuck am I supposed to have sex? (2020), mae Walshe yn ymgymryd â phersona cyflwynydd teledu. Gyda mynegiant sych ac amseru comig, maen nhw’n ystyried y ffyrdd mae ein chwantau a’n rhyngweithiadau mwyaf clòs yn cydblethu â gwleidyddiaeth tir.
Mae LAND CRUISER (2022) yn parhau â’r thema yma. Gyda dau brif gymeriad yn cwrdd wrth rodio i chwilio am ryw, mae’r ddau’n ymuno ar daith yn y car ar draws marchnad dai Iwerddon a thrwy ddaearyddiaeth gwrthdaro tir y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r fideo tair sianel ROMANTIC IRELAND (2024) yn adrodd straeon cyfochrog am gyfranogiad, gwadu a brad. Mae wedi’i osod ar safle adeiladu tŷ heb ei orffen. Cafodd ei ffilmio ar ffonau symudol, ac mae’n llwyfannu cyfarfyddiadau dramatig rhwng cyfres o saith cymeriad, gan gynnwys ffermwr-denant, cyfreithiwr a landlord, sy’n cael eu chware gan Walshe, sydd ar safle sy’n cael ei adeiladu a’i ddinistrio ar yr un pryd. Mae opera a gyfansoddwyd gan Amanda Feery gyda libreto gan Walshe yn cael ei chanu mewn pum llais, ac mae’n disgrifio achos o droi allan o dŷ. Mae’r cerflun sy’n dal y gwaith a’r gwyliwr yn atseinio’r hyn sydd ar y sgrin, wedi’i greu o ddeunyddiau lleol, ac mae’n atseinio’r arfer hynafol o adeiladu tŷ a’r traddodiad Gwyddelig o ‘meitheal’: criw o weithwyr, cymdogion, cyfeillion a pherthnasau sy’n dod ynghyd i adeiladu, cynaeafu a chydweithio mewn cydgymorth.
Mae gwaith fideo newydd Walshe FREE STATE PANGS (2025) yn ymwneud â biwrocratiaeth a llên gwerin Gwyddelig, ac mae wedi’i osod rhwng taleithiau Ulster a Connacht.
___
Pennyn
Eimear Walshe ROMANTIC IRELAND (2024)
Llun: Faolán Carey
___
Cefnogir gan Culture Ireland.