Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

 

Ffilmiau: 10-23 Mehefin Wedi ei bostio ar 10 Meh 2022

Films: 10-23 June

Dydd Gwener 10 - Dydd Iau 23 Mehefin

Mae’n gyfnod y gwyliau yn ein sinema! Yn fyw o Lundain mae ganddon ni uchafbwyntiau Sundance 2022, gan gynnwys rhagddangosiad o’r ffilm newydd ddoniol a rhywiol gan Katy Brand ac Emma Thompson Good Luck To You, Leo Grande a dros wythnos o ddangosiadau o Cha Cha Real Smooth, ffilm sydd wedi cael llwyddiant ysgubol mewn gwyliau gyda Dakota Johnson yn serennu ynddi. Yna, bydd dau fath gwahanol iawn o ŵyl yn camu i’r llwyfan: o wyl ffilmiau ymylol Gŵyl Undod Hijinx a fydd yn arddangos gwaith creu ffilmiau cynhwysol, gan gynnwys dangosiad cyntaf o Theo and the Metamorphosis a thrafodaeth gyda’r actor o Craith Justin Melluish; a Gŵyl Ryngwladol Ffilmiau a Chelfyddydau Fampir gyda’r ffilmiau newydd a chlasurol gorau am y creaduriaid arswyd danheddog. 

Lawrllwytho canllaw ffilm

Conversations