Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
 

Ffilmiau Chapter 10-23 Mawrth Wedi ei bostio ar 10 Maw 2023

undefined

Lunana: A Yak in the Clasroom

Yn dychwelyd i ein sinema'r pythefnos nesaf yw rhai o'r gorau o Ŵyl Ffilm Llundain a ffilmiau a enillodd wobrau'n ddiweddaraf fel y ffilm emosiynol hudolus a chwerwfelys yn serennu Paul Mescal, Aftersun, y ffilm hynod o dorcalonnus a doniol The Banshees of Inisherin ac enillydd o'r Grand Prix yn Ŵyl Ffilmiau Cannes y flwyddyn yma, Close

Rydyn ni'n croesawu'r ailgread amserol o un o benodau mwyaf lliwgar hanes cyfoes Cymru, Y Sŵn am rediad ffilm ar ôl y premier. Dewch ar daith archifol drochol gyda rhai o'r bandiau a ddiffiniodd y cyfnod roc a rôl yn 2000au Efrog Newydd yn y ffilm dogfen Meet me in the Bathroom.

Mae'r ffilm Lunana: A Yak in the Classroom yn ffilm ymwneud â sut rydyn ni’n mesur bywyd da, a sut mae barnu pryd rydyn ni’n wirioneddol hapus.

Mae'r Gyfres Ffilm The Infinity Card yn parhau i'n trochi ni mewn Affroddyfodliaeth ac arferion defodol i gyd-fynd a Leo Robinson: The Infinity Card yn ein horiel tan 16 Ebrill, 2023. Ffilm Grace Ndiritu a enillodd y wobr Jarman, Becoming Plant yn dilyn chwech dawnswyr sy'n cymryd rhan mewn arbrawf grŵp therapiwtig, archeb eich tocyn am ddim isod.

Daughters of the Dust yw'r ffilm gyntaf gan fenyw Affricanaidd-Americanaidd i gael ei ryddhau mewn theatrau yn yr UDA ac yn ffilm gynnil, farddonol, ac arloesol sy'n ffurfio cysylltiadau gan fytholeg a sefydlu ymdeimlad newydd o hunaniaeth, diwylliant a hanes Du. Paid â cholli mas ar y cyfle i wylio un o'r ffilmiau chafodd dylanwad ar Beyonce am ei ffilm Lemonade, ar y sgrin fawr yr wythnos yma!

 

Y Sŵn

10-23 Mawrth

 

Meet me in the Bathroom

17-23 Mawrth

 

 

The Infinity Card Film Series: Becoming Plant

Sul 19 Mawrth

Conversations