Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, os ydych chi’n 18+ oed ac yn ymweld â’n theatrau neu’n sinemâu o 15 Tachwedd ymlaen, bydd angen pàs Covid cyfredol i nodi eich bod wedi’ch brechu’n llawn, neu eich bod wedi cael prawf llif unffordd negyddol yn ddiweddar (o fewn 48 awr).
Gallwch gofrestru am bàs Covid ar wefan y GIG yma.
Bydd eich pàs Covid a chanlyniadau profion llif unffordd yn cael eu gwirio ar bwynt mynediad ein sinemâu, theatrau ac unrhyw ofod lle mae perfformiad yn digwydd.
Gallwch gyflwyno eich pàs Covid fel un o’r canlynol:
Os nad oes gennych chi bàs Covid, bydd angen dangos cadarnhad o brawf llif unffordd negyddol a gafwyd drwy neges destun neu e-bost gan gov.uk. Bydd hefyd angen dangos prawf o hunaniaeth ochr yn ochr â’ch canlyniad prawf.
Os ydych chi eisoes wedi archebu tocyn ar gyfer digwyddiad a gynhelir ar 15 Tachwedd neu ar ôl hynny, gallwch wneud cais am ad-daliad os nad oes modd i chi ddangos pàs Covid neu dystiolaeth o brawf negyddol. O 15 Tachwedd ymlaen, os ydych chi’n archebu i ddod i weld perfformiad neu ffilm, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud hyn cyn ymweld, neu bydd yn rhaid i ni wrthod mynediad, ac ni fyddwch yn cael ad-daliad.
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar y pàs Covid a phrofion llif unffordd, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu darllen ein cwestiynau cyffredin.
Conversations