Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
 

Nadolig yn Chapter Wedi ei bostio ar 16 Rhag 2022

 

undefined

 

Rhwng 3 a 6 o Ionawr rydym yn rhannu hapusrwydd efo cyfres o weithgareddau a chinio i fynd AM DDIM i gadw boliau bach yn llawn. 

Dechrau eich dydd efo un o'n gweithdai celf rhwng 10 a chanol dydd, ar gael o'r 3-6 Ionawr.

Rhwng 12 a 2yp helpwch eich hunain i ginio i fynd am ddim. Mae'r cinio ar gael i blant dan 18 mlwydd oed, heb gwestiwn, opsiynau dietegol gwahanol ar gael. 

Mae ein ffilmiau teulu AM DDIM ar gael o 3-8 Ionawr! Ffilmiau teulu am ddim yn cynnwys Frozen (PG), 101 Dalmatians (U) ac Abominable (U). Ewch i'n wefan am ragor o wybodaeth ac i archebu eich tocynnau, neu galw heibio a gofyn i un o'n tim cyfeillgar i argraffu eich tocynnau. 

Yn ogystal i'r ffilmiau tymhorol am ddim, ni hefyd yn dangos ffilmiau Nadolig fel The Muppet Christmas Carol (U) ac It's a Wonderful Life (U) cyn i'r gwyliau ddechrau, ond nad yw'r rhain yn rhan o'r ffilmiau am ddim a fydd y tocynnau yn £6 / £4! 

Am fwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i'n wefan www.chapter.org neu ffonio ein Desg Wybodaeth ar 029 2031 1050. 

Dymuniadau gorau i chi'r Nadolig yma.

Conversations