Uchafbwyntiau mis Rhagfyr
- Published:
Edmygwch osodwaith celf yn y bar Dale Holmes gyda gwin cynnes neu sbeis afal cynnes fis Rhagfyr.
Mae Rheolwr Rhaglen y Sinema, Claire, a’r Curadur Celfyddydau Gweledol, Sim, wedi dod at ei gilydd i greu detholiad cyffrous o ffilmiau i gyd-fynd ag arddangosfa Ntiense Eno-Amooquaye, Crashing the Glass Slippers.
Mae’r artist perfformio preswyl Dan Johnson yn cynnal cyfres o berfformiadau cyhoeddus, rydyn ni’n croesawu Gareth Clark am Celebrations at the Funeral of Capitalism, ac yn cael clywed gan Laure Boer hypnotig a bywiog gyda chefnogaeth gan grŵp ffug-jazz o Gaerdydd, Randox Trio.
Dros wyliau’r ysgol, ymunwch â ni ar gyfer Paddington in Peru a chinio ysgol am ddim i bawb o dan 18 oed rhwng 12-2pm.
- Film
The Devil Wears Prada (PG)
Mae newyddiadurwraig ifanc yn gweithio i frenhines iâ’r byd ffasiwn.