Deaf Gathering Cymru 2024

Gŵyl dan arweiniad pobl Fyddar i bawb

  • Published:

Gŵyl yng Nghaerdydd dan arweiniad pobl fyddar yw Deaf Gathering Cymru, wedi’i chreu gan Ganolfan Gelfyddydau Chapter a’r artistiaid ac ymgynghorwyr creadigol byddar Jonny Cotsen a Heather Williams. Fe’i cynhelir 5-8 Medi 2024, ac mae’r dathliad pedwar diwrnod ar agor i bawb, ac yn adeiladu ar lwyddiant gŵyl Byddar gyda’n Gilydd y llynedd, gan gynnig rhaglen ddeinamig o ddiwylliant a sgyrsiau gyda safbwyntiau byddar yn ganolog iddi.

Cynhelir y digwyddiad yma gan bobl fyddar ac ar gyfer pobl fyddar, ond mae croeso cynnes i bobl sy’n clywed hefyd. Cefnogir y rhaglen gyda Iaith Arwyddion Prydain, capsiynau byw, a chyfieithu ar y pryd o Iaith Arwyddion Prydain i Saesneg.

Mae Deaf Gathering Cymru yn cynnig pedwar diwrnod o ddigwyddiadau, gweithgareddau, sgyrsiau a pherfformiadau, gyda phopeth o ioga i theatr, o symposiwm i noson gomedi meic agored! Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim, gan ein bod ni am gadw’r ŵyl yn agored i bawb!

Nos Iau 5 Medi, byddwn ni’n dechrau ar y dathliadau gyda pherfformiad drymio yn y caffi bar. Yn dilyn sioe llawn dop y llynedd, rydyn ni’n falch o groesawu’r digrifwr Gavin Lilley ’nôl, a fydd yn rhannu ei straeon doniol am iaith, bywyd a diwylliant drwy harddwch iaith arwyddion. Gyda chapsiynau byw a dehongliad troslais, mae modd i gynulleidfaoedd byddar ac sy’n clywed fwynhau hiwmor chwareus Gavin.

Ddydd Gwener 6 Medi, byddwn ni’n cynnal Symposiwm Deaf Gathering, lle bydd cyfle i sgwrsio am lesiant byddar, pam fod cynhwysiant yn bwysig, pwysigrwydd modelau rôl o Gymru a mwy. Bydd y prif areithiau’n cael eu rhoi gan Sara Rhys Jones, Ruth Montgomery, Shaun Fitzgerald a Levi Slade.

Mae’r ail ddiwrnod hefyd yn cynnwys Chapter MovieMaker, sef dangosiad o ffilmiau byrion gan wneuthurwyr ffilm byddar. Yn Theatr Seligman, mae The Rest of Our Lives gan Jo Fong a George Orange yn adrodd stori hen glown a hen ddawnsiwr sy’n delio â bywyd canol oed gyda’i gilydd gyda hiwmor, tynerwch a’r optimistiaeth ryfeddaf. Mae’r perfformiad yn cynnwys dehongliad Iaith Arwyddion Prydain integredig gan Katie Fenwick.

Bydd dydd Sadwrn 7 Medi yn ddiwrnod prysur gyda marchnad dan arweiniad pobl fyddar, gweithdy clyweledol gyda Ruth Montgomery, teithiau tywys Iaith Arwyddion Prydain yn yr oriel gydag Our Visual World, gweithdy comedi Gavin Lilley, Clwb Sinema Byddar gyda Heather Williams, a chyfle i roi tro ar gomedi byw yn ein Noson Meic Agored. Byddwn ni’n cloi’r noson gyda DJ Tyler yn y caffi bar.

Byddwn ni’n arafu i lawr ychydig ddydd Sul 8 Medi, gyda chyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol ac ymlaciol, gan gynnwys clwb llyfrau Sarah Marsh, Ioga Byddar gydag Emma Callaghan, gweithdai celf gydag Alex Miller a Vicky Barber-Crimes, perfformiad anhygoel o ddoniol ac anniben gan Theatr OftheJackel, a llawer, llawer mwy...

Mae tocynnau’n cael eu hychwanegu’n wythnosol. I aros mewn cysylltiad, dilynwch Deaf Gathering Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol @deafgatheringcymru neu cofrestrwch i gael cylchlythyr Chapter.

Chapter | Deaf Gathering 2024

Cefnogir Deaf Gathering Cymru drwy haelioni Cyngor Celfyddydau Cymru, SignHealth, Cadwyn, CCHA, Eversheds Sutherland, Linc a Tai Pawb.