Uchafbwyntiau mis Hydref

  • Published:

Mae ’na raglen gelf newydd lawn yn cael ei lansio fis yma, lle byddwn ni’n croesawu Ntiense Eno-Amooquaye i’r oriel gyda’i chorff newydd o waith, Crashing the Glass Slippers. Mae’r arddangosfa’n cynnwys ffotograffiaeth, perfformiadau, arlunio, ffasiwn a thecstilau. Dale Holmes: Toilscape for Lithic Child yw ein harddangosfa Celf yn y Caffi ddiweddaraf, a beth am fynd draw i weld blodau melyn Mair euraidd Jade de Monstserrat ar draws ein mynedfa?

Mae tymor perfformiadau’r hydref/gaeaf yn amrywio o berfformiadau, sgyrsiau, gweithdai, partïon, a digwyddiadau arbennig i ganfod cymuned a meddwl yn feirniadol ac ar y cyd am y ffyrdd rydyn ni’n byw. I ddod fis yma mae Goner gan Marikiscrycrycry, sy’n dilyn ffigwr ar daith goreograffig synhwyrus, llawn tyndra. Mae Cymuned Dawnsfa Cymru yn dod yma â’u dawnsfa Bad B Kiki dros benwythnos Calan Gaeaf, ac wedi hynny, bydd Ocean Hester Stefan Chillingworth yn cyflwyno Blood Show: dathliad traws o ddinistrio pethau, gan gynnwys ein hunain, i greu rhywbeth newydd.

Mae tymor y gwyliau ffilm yn lansio yn yr hydref gydag arlwy gyffrous o ffilmiau o bob rhan o’r byd, gan gynnwys ein gŵyl gartref Gŵyl Animeiddio Japan: Kotatsu ar 5-6 Hydref. Ymunwch â ni ar gyfer y ffilmiau LHDTC+ gorau gyda Gwobr Iris ddydd Sul 13 Hydref, lle byddwn ni’n dangos Goreuon Iris 2024, Vera and the Pleasure of Others a Perfect Endings.

Filter events by date
  1. Ralph Fiennes wearing red and gold traditional Catholic Church clothes whilst clasping his hands among a crowd of people.
    • Ffilm

    Conclave (12A)

    Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.