Uchafbwyntiau mis Mawrth Chapter

  • Published:

Rydyn ni’n edrych ymlaen at y gyhydnos gwanwyn ac i groesawu’r tymor newydd. Gwneud gorau’r dyddiau hir a gwariwch mwy o amser i fwynhau’r gorau o gelfyddyd, ffilm a pherf­formiad a ni!

Mae Ebrill yn ddechrau dyddiadur gwych o wyliau efo’r unig wyliau celfyddyd byw yng Nghymru, Experimentica: Call to Spring (1114 Ebrill) wedi’i ddilyn gan yr ŵyl animeiddio fwyaf hyfryd yn y byd, Gŵyl Animeiddio Caerdydd (2428 Ebrill), gyda’i thema flasus trît’.

Rydym yn dathlu’r bobl greadigol o Chapter gyda’i noson o berf­formiadau newydd Herding Cats, gan y cyfuniad staff Chapter, CYD! Dewch i gefnogi’r wynebau cyfarwydd Chapter am nos sy’n rhannu beth sy’n gwneud ein cymuned greadigol mor arbennig.

Gyda’r Pasg rownd y cornel, gennym ni danteithion arbennig i chi wledda ar! Mae Theatr Lyngo yn cyflwyno gwaith pyped mesmeraidd a cher­d­doriaeth prydferth yn The Little Prince, sioe perffaith i’r holl deulu fwynhau yn yr addasiad yma o’r un o’r llyfrau i blant o’n amser. Yn ogystal i hyn, bydd ein ffilmiau am ddim i’r teulu (The Iron Giant) yn ogystal i’n pecynnau cinio i bob plentyn yn ystod y gwyliau.

Mae ein horiel yn cael ei thrawsnewid ac yn paratoi am ein hard­dan­gosfa ddiweddaraf gan Adham Faramawy: in the simmering air and the flows of the under­current, sy’n agor i’r cyhoedd ar ddydd Gwener 29 Mawrth. Yn y cyfamser gallwch fwynhau arddangosfa swynol Theatr Ranters, Belief System yn ein Stiwdio Seligman.

Mae NT Byw yn ôl gyda’i darllediad o’r perfformiad The Motive and the Cue, sy’n serennu Mark Gatiss a Johnny Flynn, ac os collasoch chi Vanya, gwyliwch am y tro olaf ar ddydd Sul 10 Mawrth!