Uchafbwyntiau Chapter mis Mehefin
- Published:
Ym mis Mehefin eleni, mae ein rhaglen yn llawenhau â ffilmiau byrion a nodwedd LHDTCRhA+, yn ogystal i gelf, dawns a pherfformiadau! Yn yr oriel, mae arddangosfa Adham Faramawy yn parhau tan 23 Mehefin. Beth am dreulio ychydig o amser gyda’u gosodwaith teimladwy sy’n archwilio clymau cysylltiedig y tir, afonydd, a llifoedd mudol?
Yn ein theatrau, bydd Amy Mason yn cyflwyno ei sioe unigol gyntaf mawr ei haros, Free Mason, ac yn yr awyr agored, bydd Osian Meilir yn cyflwyno QWERIN, gyda chymysgedd deinamig o ddawnsio gwerin ac egni bywiog bywyd nos Cwiar.
Archwiliwch y benywaidd rhanedig yn Hotelle gan Billy Morgan, cyn ymuno â ni wedyn yn y caffi bar ar gyfer set DJ gyda Raven.
Mae’r gwneuthurwr theatr Tom Marshman yn casglu lleisiau o wahanol genedlaethau ynghyd i archwilio eu straeon Adran 28 ym mhortread chwareus, gonest a theimladwy Section 28 and Me, gyda the parti arbennig y diwrnod cynt.
Yn ein sinemâu, bydd God’s Own Country yn dychwelyd, a thair ffilm ar gyfer Diwrnod Wcráin, gan nodi dechrau Wythnos Ffoaduriaid, 17 – 23 Mehefin.
Mae Gŵyl Ffilmiau SAFAR yn dychwelyd ar thema Breuddwydion, Gobeithion a Gwirionedd, gyda ffilmiau newydd, clasuron, dangosiadau i’r teulu, ffilmiau o’r archif, digwyddiadau arbennig a mwy!
Ddydd Mercher 19 Mehefin, byddwn ni’n croesawu Côr Un Byd Oasis i weithdy canu, gyda pherfformiad am ddim i ddilyn yn y caffi bar. Rydyn ni’n edrych ymlaen hefyd i gynnal sgwrs gyda Marina Barham, Cyfarwyddwr Cyffredinol Theatr Al Harah ym Methlehem, Palesteina, ar 27 Mehefin.
Llun: Billy Morgan by Gergely Ofner